>>>
 

Datganiad Technegol Rhanbarthol (2il Adolygiad) Ymgynghoriad

2il Adolygiad o’r Datganiad Technegol Rhanbarthol yn cael ei lansio ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus

Rhaid cynhyrchu Datganiad Technegol Rhanbarthol (DTRh) bob 5 mlynedd ar gyfer Gweithgorau Agregau Rhanbarthol Gogledd a De Cymru.  Mae hwn yn un o ofynion Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 1 (MTAN 1).  Mae’r DTRh yn rhoi argymhellion sy’n arwain lefelau darpariaeth y dyfodol ar gyfer agregau adeiladu sy’n angenrheidiol gan bob Awdurdod Cynllunio Lleol yng Nghymru.


Cyhoeddwyd y Datganiadau gwreiddiol yn 2008, a chawsant eu hadolygu’n gyntaf yn 2014.  Mae drafftiau ymgynghori o ddogfennau’r Ail Adolygiad nawr ar gael i’w harchwilio. 


Mae Neil Hemington, Prif Gynllunydd Llywodraeth Cymru, wedi ysgrifennu at awdurdodau cynllunio lleol i dynnu sylw at ymgynghoriad y Datganiad Technegol Rhanbarthol (RTS) a'r digwyddiadau a fydd yn digwydd yn ystod y cyfnod ymgynghori.


Mae pob DTRh yn cynnwys y brif ddogfen ynghyd ag Atodiad Rhanbarthol cyfatebol, sy’n cynnwys manylion ychwanegol.  Cafodd y rhain eu cynhyrchu, ar ran pob Gweithgor Agregau Rhanbarthol, gan Cuesta Consulting Limited, dan gontract i Lywodraeth Cymru.  Serch hynny, bu pob Gweithgor Agregau Rhanbarthol yn ymwneud yn agos â’r gwaith o’u paratoi, drwy ddarparu gwybodaeth dechnegol a’i gwirio’n fanwl, a bellach mae’r dogfennau’n barod ar gyfer craffu’n ehangach. 


Gellir lawrlwytho’r drafftiau ymgynghori fel dogfennau pdf yma:

RTS 2nd Review - Main Document RTS 2nd Review - Main Document

RTS 2nd Review - Appendix A (North Wales) RTS 2nd Review - Appendix A (North Wales)

RTS 2nd Review - Appendix B (South Wales) RTS 2nd Review - Appendix B (South Wales)

Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg am wyth wythnos, rhwng 30 Medi a 25 Tachwedd.


Yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd dau ddigwyddiad ymgynghori, un ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn Ne Cymru ddydd Llun 11 Tachwedd, ac un yng Nghyffordd Llandudno yng Ngogledd Cymru ddydd Gwener 15 Tachwedd.  Mae hyd at 40 o leoedd ar gael ym mhob digwyddiad.  Mae’r digwyddiadau’n rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb.  Ond mae dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau (dydd Gwener 1 Tachwedd) felly bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. 


Mae rhagor o fanylion am bob digwyddiad, gan gynnwys manylion ar sut i archebu lle, wedi’u nodi yn y dogfennau pdf canlynol

Flier for Consultation Event - North Wales Flier for Consultation Event - North Wales

Flier for Consultation Event - South Wales Flier for Consultation Event - South Wales

Fe’ch anogir yn gryf i gyfrannu at y broses hon, p'un a ydych yn weithredwr mwynau, yn swyddog cynllunio, yn rhanddeiliad fwy cyffredinol, yn Aelod etholedig o Awdurdod Cynllunio Lleol neu’n aelod o’r cyhoedd sydd â diddordeb.


Os hoffech chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, p’un a ydych yn llwyddo i ddod i un o’r digwyddiadau ymgynghori neu beidio, gallwch wneud hynny drwy lawrlwytho a llenwi ffurflen yr arolwg yma:

RTS Second Review Consultation Survey RTS Second Review Consultation Survey

Fel yr esboniwyd yn y cyfarwyddiadau ar dudalen 1 o’r ffurflen, gallwch gwblhau’r ffurflen gyfan, neu unrhyw ran ohoni, yn dibynnu ar y meysydd penodol sydd o ddiddordeb neu sy'n peri pryder i chi.  Pan fyddwch wedi gorffen, a fyddech cystal â dychwelyd eich ymateb mewn e-bost at yr ymgynghorydd. alan.thompson@cuesta-consulting.com, erbyn 25 Tachwedd 2019 fan hwyraf.

Cyflwyniad Digwyddiad Ymgynghori Cyflwyniad Digwyddiad Ymgynghori


Copyright © 2006 NWRAWP North Wales Regional Aggregates Working Party | Design by